Mae Dydd Santes Dwynwen ar y 25ain o Ionawr bob blwyddyn, yn ddydd dathlu
cariad a rhamant yn genedlaethol yng Nghymru – gellir ei alw’n fersiwn Cymraeg o
Ddydd San Ffolant. Er, yn llai poblogaidd a llai adnabyddus na’r Dydd San Ffolant
Saesneg, cafodd Dydd Santes Dwynwen ei enwi ar ôl Dwynwen, nawddsant cariadon
Cymru. Gan fod stori Dwynwen wedi ei hadrodd dros ganrifoedd lawer, mae’n
anodd gwybod beth yw’r gwir hanes neu’r wir stori. Beth bynnag, mae’r fersiynau
sy’n awr yn cael eu hadrodd ledled Cymru yn eithaf tebyg, ond gan fod y stori’n
rhannol yn fytholegol, yna, rhan bwysicaf y stori yw’r wers a ddysgir ganddi.
Yn ystod y 5ed ganrif, roedd brenin o’r enw Brychan Brycheiniog yn byw ac roedd yn
fab i frenin o Iwerddon. Roedd ganddo 34 o blant, a dywedir bod ei ferched yn hardd
dros ben. Nid wyddom faint yn union o blant oedd ganddo, ond mae pob fersiwn o’r
stori’n dweud bod ei blant yn niferus.
Yr harddaf o’i ferched oedd Dwynwen. Roedd y brenin a’i ferched yn byw ym Mrycheiniog, sy’n fwy adnabyddus fel Aberhonddu, ardal yng Nghanolbarth Cymru. Roedd y brenin wedi trefnu bod Dwynwen yn priodi tywysog pwysig a dylanwadol. Beth bynnag, roedd Dwynwen wedi syrthio mewn cariad â bachgen cyffredin o’r enw Maelon Dafodrill. Mae rhai o’r storïau’n dweud mai bachgen lleol ydoedd, eraill yn dweud ei fod yn dod o Ogledd Cymru. Bwriadai Dwynwen briodi Maelon a gwnaeth hyn y brenin yn grac. Gwrthododd y brenin
ganiatau iddynt briodi a ffodd Dwynwen gan ei bod yn torri ei chalon ac mewn galar
mawr.
Dilynodd Maelon Dwynwen a cheisio ei pherswadio i fynd yn erbyn
gorchmynion ei thad a’i briodi beth bynnag. Gwrthododd Dwynwen anufuddhau i’w
thad a pharodd hyn i Faelon golli ei dymer. Rhedodd Dwynwen i ffwrdd a daeth o hyd
i gysgod yn y goedwig lle roedd yn wylo ac yn gweddïo ar i Dduw ei helpu a’i
rhyddhau o’i chariad at Faelon. Mewn fersiwn mwy aeddfed o’r stori na ddysgir i
blant mewn ysgolion, dywedir i Faelon fygwth treisio Dwynwen am iddi wrthod ei
briodi.
Un noson, tra’r oedd Dwynwen yn cysgu yn y goedwig, ymwelodd angel â hi a
roddodd ddiod arbennig iddi a fyddai’n gwneud iddi anghofio am Faelon. Yfodd
Dwynwen y ddiod yn eiddgar. Beth bynnag, nid oedd yn ymwybodol bod yfed y ddiod
arbennig yma nid yn unig yn ateb ei gweddïau ond hefyd yn troi Maelon yn dalp o
rew.Yna, fe roddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen. Ei dymuniad cyntaf oedd bod Maelon
yn dychwelyd i’w ffurff dynol. Dywed fersiynau eraill mai ei dymuniad cyntaf oedd
cael gwared ar Faelon a gwnaeth Duw iddo ddiflannu. Ei hail ddymuniad oedd fod
Duw yn helpu gwir gariadon i ddarganfod ei gilydd a byw yn hapus. Ei thrydydd
dymuniad a’r olaf, oedd na fyddai byth yn priodi. Gwnaeth Duw bob un o’r
dymuniadau yma’n wir.
Wedi dysgu trwy ei phrofiadau hi ei hun, daeth Dwynwen yn lleian ac roedd am helpu eraill oedd yn dioddef oherwydd cariad. O ganlyniad, aeth i ffwrdd gyda’i chwaer Cain a’i brawd Dyfnan a theithiasant o gwmpas Cymru, yn pregethu a sefydlu eglwysi. Yna, hwyliasant i ynys fechan oddi ar arfordir Ynys Môn a sefydlu eglwys fach ar yr ynys. Gelwir y lle’n Llanddwyn (eglwys Dwynwen) heddiw ac mae olion eglwys ar yr ynys a gellwch ymweld â hi a gweld trosoch chi eich hun. Daeth llawer o ferched eraill oedd wedi dioddef oherwydd cariad i ymweld â Dwynwen a sefydlodd hyn ei rôl fel nawddsant cariadon yma yng Nghymru.
Er nad oes sicrwydd pam yn union rydym yn dathlu Dydd Santes Dwynwen ar y 25ain o
Ionawr bob blwyddyn, daethpwyd â stori Dwynwen nôl i’r amlwg yn ystod 1970au i
wrthwynebu Dydd San Ffolant a chreu diwrnod cenedlaethol oedd wedi ei anelu’n
arbennig at y Cymry.
Er ein bod ni’n dathlu Dydd Santes Dwynwen yma yng Nghymru mewn modd tebyg
iawn i ddydd San Ffolant drwy anfon cardiau at ein gilydd neu drwy roi blodau neu
roddion, rhoddir un anrheg Cymraeg traddodiadol sef llwy serch, llwy bren wedi’i
haddurno a’i cherfio â llaw.
Felly eleni, yn hytrach nag aros nes y 14eg o Chwefror i ddweud wrth eich cariad sut
rydych chi’n teimlo, pam na ddathlwch ar y
Ysgrifenwyd gan Megan Finch
Comments